Rheolwr Swyddfa
Swydd Newydd: Rheolwr Swyddfa
Dyddiad Cau Wedi Bod
Mae'n gyfnod cyffrous i gwmni cynhyrchu Darlun a chwmni adnoddau Ôl gynhyrchu Argol. Ers inni sefydlu yng Nghaernarfon 3 blynedd yn ôl, da' ni wedi cynhyrchu a golygu nifer o gyfresi teledu poblogaidd fel Gwesty Aduniad, Ysgol Ni, Maesincla, Helo Syrjeri a llawer mwy. Criw bychan ydan' ni, ond dros y misoedd nesaf mae sawl prosiect newydd ar y gweill i S4C, BBC Cymru a BBC rhwydwaith, ac rydym yn bwriadu ehangu. Rydym felly'n chwilio am berson trefnus a chydwybodol i fod yn Rheolwr Swyddfa, fydd yn asgwrn cefn i weithgaredd y ddau gwmni. Chi fydd yn sicrhau fod y swyddfa yn cael ei rhedeg yn effeithiol a threfnus a byddwch yn helpu i oruchwylio ein trefniadau ariannol ynghyd â chynorthwyo gyda gwaith adnoddau dynol amrywiol.
Prif ddyletswyddau:
Cynorthwyo gyda Chyllid
Anfonebu cwsmeriaid a thalu cyflenwyr
Prosesu anfonebau incwm a gwariant gan ddefnyddio meddalwedd cyfrifo Sage (darperir hyfforddiant)
Gweithio gyda'n cyfrifwyr i baratoi holl wybodaeth TAW, Treth, Cyflogres a phensiwn perthnasol
Cynorthwyo gyda Adnoddau Dynol
Cydweithio gyda'r Rheolwyr Gyfarwyddwyr i sicrhau bod gofynion hyfforddiant staff, fel hyfforddiant cymorth cyntaf a gweithio'n ddiogel ar gynhyrchiadau teledu, wedi'u cyflawni.
Cydlynu a gweinyddu'r prosesau recriwtio
Cydlynu prosesau ymgynefino ar gyfer staff newydd, a goruchwylio lleoliadau profiad gwaith
Cydweithio gyda'r Rheolwyr Gyfarwyddwyr i gydlynu a gweinyddu cytundebau gwaith, gan sicrhau fod y dogfennau angenrheidiol yn cael eu casglu a'u prosesu yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data.
Gweinyddiaeth
Gweithredu fel y prif bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau cyffredinol
Sicrhau bod yr holl waith ffeilio, ar bapur ac yn electronig, yn cydymffurfio â'n canllawiau diogelu data
Cyflawni gwaith gweinyddol o ddydd i ddydd y swyddfa, gan gynnwys trefnu gwaith cynnal a chadw offer y swyddfa
Gweithredu fel y prif gyswllt ar gyfer y cwmnïau sydd yn gwasanaethu'r swyddfa ee. cwmni glanhau er mwyn cadw'r adeilad yn y cyflwr gorau posib.
Cydweithio a thrafod gyda chyflenwyr allanol, gan gynnwys cytundebu prydlesi offer, adnewyddu yswiriant, casglu sbwriel, ailgylchu ac ati. Hefyd, cydlynu gwiriadau rheolaidd yr adeilad ee. profion dyfeisiadau, diogelwch tân ayyb
Y Person Delfrydol
Rhywun sydd â phrofiad o waith gweinyddol/ ariannol ac yn gallu defnyddio meddalwedd Word ac Excel.
Byddwch yn meddu ar sgiliau trefnu, cynllunio a thechnoleg gwybodaeth ragorol.
Byddwch yn gallu addasu i sefyllfaoedd gwahanol, yn berson dibynadwy sydd yn gallu cynnal cyfrinachedd.
Bydd ganddo’ch sgiliau cyfathrebu ardderchog ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Danfonwch eich CV at arwyn@darlun.tv er mwyn cael eich ystyried am y swydd. Neu cysylltwch os am ragor o wybodaeth drwy gwblhau y ffurflen isod.
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 19eg o Dachwedd 2021